| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/01/2008 - Brwydro tywydd garw ar gyfer Gwobr

Mae pobl ifanc anturus o Sir Ddinbych wedi brwydro yn erbyn y tywydd fel rhan o antur Gwobr Dug Caeredin yn ddiweddar.

Dechreuodd y grŵp ar gopa Bwlch yr Oernant, Llangollen cyn gwneud eu ffordd drosodd at Lyn Gweryd ger Llanarmon yn Iâl ble buont yn gwersylla dros nos a choginio tra'n cysgodi o'r gwyntoedd, eira a chesair.

Meddai Tony Crimes, gweithiwr cynnal:  “Rwy'n falch o'r bobl ifanc a lwyddodd o godi pabell a gwneud gofynion gwersylla heb gwyno - maen nhw wedi ennill eu tystysgrif a byddant yn cymhwyso cyn diwedd yr haf”.

Yn y cyfamser, bydd  tîm o 8 o bobl ifanc o Ganolfan Gwobr Dug Caeredin yn dechrau ar eu hymgyrch i dderbyn y Wobr Aur ar hyd 80 milltir o'r afon Gwy o Glasbury hyd Fynwy yn ystod y gwyliau Pasg. 

Byddant yn cwblhau gofynion eu gwobr Aur mewn da bryd i dderbyn y Wobr yn hwyr yn yr haf. Byddant wedyn yn derbyn y Wobr gan Aelod o'r Teulu Brenhinol yn Llundain yn gynnar y flwyddyn nesaf.

I gael mwy o wybodaeth  am Wobr Dug Caeredin yn Sir Ddinbych ffoniwch Wasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych ar 01745 345234.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0