| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/01/2008 - Pennaeth newydd ar Ofal Iechyd Cefndy

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi penodiad Deborah Holmes-Langstone fel Rheolwr cyffredinol Cefndy Healthcare.

Mae Deborah wedi gweithio fel Pennaeth gwerthiant a marchnata Cefndy, yn y Rhyl  ers 1994 ac am y 6 mis diwethaf a bu Deborah yn gweithredu fel Rheolwr cyffredinol Interim.

Mae gan Cefndy Healthcare weithlu o 60 o staff, hefo mwyafrif o gyflogedig anabl.  Bydd Deborah yn arolygu strategaeth a datblygiadau newydd i gyfarfod y sialens o farchnad gystadleuol.

Mae Deborah yn cymryd lle Bill Whittaker MBE sydd wedi ymddeol ddiwedd mis Mawrth.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0