Bydd gwasanaethau treftadaeth Sir Ddinbych yn dathlu mis Amgueddfeydd ac Orielau ym mis Mai trwy gynnal gweithgareddau yn Yr Hen Garchar, Plas Newydd (Llangollen) ac Amgueddfa'r Rhyl.
Trefnir mis Amgueddfeydd ac Orielau gan The Campaign for Museums a hwn fydd y dathliad mwyaf yn y DU o amgueddfeydd ac orielau .
Yn y Rhyl gall pobl ddathlu bywyd ar y traeth hefo arddangosfa ‘Donkeys at the Seaside’ sy'n rhedeg o 1 hyd 31 Mai. Bydd ymwelwyr yn gweld lluniau am y ganrif ddiwethaf o fulod hefo teithwyr ar draeth y Rhyl a gall pobl ganfod mwy am eu stori gudd.
Dydd Mawrth, 6 Mai rhwng 10.30am a 12pm cynhelir gweithdy gwneud gemwaith hefo Sue Edwards ac arwyddwr iaith y byddar. Cyfle i wneud gemwaith am hanes y Rhyl. Rhaid trefnu lle ymlaen llaw ffoniwch 01824 708281 neu e-bostiwch susan.dalloe@denbighshire.gov.uk.
Dydd Mercher, 28 Mai am 10.30am, 11.30am, 2pm neu 3.30pm cyfle i gyfarfod tri morwr fu'n hwylio'r moroedd ar y stemar o'r enw Denbigh. Bydd yr actorion hyn yn sôn wrthych am sut y bu cychod yn teithio rhwng glannau Mersi a'r Rhyl .
Dydd Gwener, 30 Mai rhwng 10am a 4pm gallwch greu mosaig hefo'r artist, Trisha Jones. Galwch i mewn unrhyw bryd a bydd Trisha yn eich cyflwyno i dechnegau gwneud mosaig. Mae Merseyside Connections yn brosiect sy'n cysylltu Lerpwl. Yn ystod 2008 gwneir cyfres o mosaics ar draws Sir Ddinbych fydd yn daith fosaig ar draws y sir i nodi themâu sy'n cysylltu dwy ardal o Brydain.
Caiff pobl sy'n ymweld â baddondy Prestatyn ddydd Sadwrn, 10 Mai rhwng 11am a 3pm gyfle arall i gyfarfod Trisha a chymryd rhan yn creu mosaig fel rhan o brosiect Merseyside Connections fydd yn yr ardal.
Thema mis Amgueddfeydd ac orielau Yr Hen Garchar fydd merched mewn carchar . Cynhelir arddangosfa rhwng 1 a 31 Mai gan yr artist clai , Katie Scarlet Howard ar sail thema merched cryf a'u bywydau.
Dydd Sadwrn, 3 Mai a dydd Mawrth, 27 Mai rhwng 11am a 4pm (a dydd Iau, 8 Mai 10am - 12.30pm hefo dehonglydd iaith y byddar) a gall pobl sy'n ymweld â Yr Hen Garchar gael synnwyr o fywyd merched yn Yr Hen Garchar. Cyfle i gyfarfod yr actores, Ruth Moore Williams, fydd yn dramateiddio storiâu am ferched mewn carchar, a chreu cyflwr emosiynol a chorfforol trwy gelf clai hefo Katie Scarlet Howard
Bydd Yr Hen Garchar yn dathlu penwythnos fel animeiddiad o waith Nick Park’s Oscar® o ‘The Wrong Trousers’. Dangosir hyn am 6pm dydd Gwener, 16 Mai a rhwng 2pm a 4pm dydd Sadwrn 17 a dydd Sul, 18 Mai.
Plas Newydd - cartref Boneddigesau Llangollen - bydd yn cynnal gweithdai gan Ann Bridges, Artist preswyl 2008. Roedd Boneddigesau Llangollen yn cadw dyddiaduron yn ystod eu cyfnod ym Mhlas Newydd, llawn o sylwadau diddorol am eu bywyd bob dydd . Mae Ann yn cadw dyddiaduron fel rhan bwysig o'i gweithgareddau ond fel archif i'r teulu - a bydd rhan ohono i'w weld.
Dydd Llun, 5 Mai a dydd Llun, 26 Mai rhwng 11am a 4pm caiff ymwelwyr gyfle i wneud lluniau hefo pen, dyfrlliw a phensiliau.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Yr Hen Garchar ar 01824 708281 neu e-bostiwch susan.dalloe@denbighshire.gov.uk.

Rhoi adborth ar y tudalen hon