Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu canlyniad tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn yr Awdurdod gan ddau gyn aelod o staff.
Cafodd hawliadau yn erbyn y Cyngor a ddygwyd gan Sheila Dooley a Colin Hardie yn nhribiwnlys Abergele y mis diwethaf eu gwrthod yn unfrydol. Disgrifiwyd y gwyn o ddisgrimineiddio oherwydd rhyw gan y Barnwr Cyflogaeth, Paul Cadney, fel “wholly misconceived”.
Gwaharddwyd Ms Dooley a Mr Hardie o'u swydd i aros ymchwiliad ym mis Medi 2005 ar ôl i reolaeth gael pryder am ddull rheolaeth y ddau ohonynt.
Dywedodd y barnwr fod yr ymchwiliad a'r gwrandawid yn drwyadl iawn ac yn fath o ymchwiliad a gwrandawid y gallai cyflogwr rhesymol ei gynnal. Roedd yn gwrthod unrhyw feirniadaeth a wnaed am y ffordd y triniodd yr Awdurdod yr achos.
Meddai Ian Miller, y Prif Weithredwr: "Rydym yn croesawu penderfyniad clir y tribiwnlys i wrthod y cais sy'n cyfiawnhau proses a phenderfyniad y Cyngor yn yr achosion hyn.
“Mae'n anfon neges glir nad yw bwlio a phoendod yn y gweithle yn dderbyniol. Mae'r Cyngor Sir a'i swyddogion wedi dilyn canllawiau eglur ac rydym yn ystyried mater camymddygiad neu fwlio a phoendod yn ddifrifol. Cafodd Ms Dooley ei diswyddo o'i swydd fel Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd tra ymddiswyddodd Mr Hardie o ganlyniad i gael rhybudd ysgrifenedig terfynol.”
Bydd y Cyngor Sir yn gwneud cais am gostau i adfer gwariant sylweddol o amddiffyn ei hun.

Rhoi adborth ar y tudalen hon