Mae democratiaeth yn fyw yn Sir Ddinbych, gyda mwy nag un ymgeisydd ym mhob sedd ar gyfer yr etholiadau cyngor sir ar Fai'r 1af.
Cyhoeddwyd rhestr yr ymgeiswyr heddiw ac mae 139 o enwau wedi cael eu cyflwyno, cynnydd o 14 ar etholiadau 2004. Mae gan ymgeiswyr tan Ddydd Mercher, Ebrill 9 i dynnu nôl eu henwebiad.
Dywedodd Ian Miller, y Prif Weithredwr: "Dros y misoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi bod yn rhedeg ymgyrch 'Meddwl Bod yn Gynghorydd' , i godi ymwybyddiaeth am yr etholiadau ac i annog pobl i gysidro sefyll am etholiad.
"Rydym yn hynod falch o weld gymaint o ymgeiswyr, sy'n dangos yn glir fod democratiaeth yn fyw yn Sir Ddinbych. Dydy hi ddim yn rhy hwyr i bobl leol gofrestru i bleidleisio ar Fai'r cyntaf, gyda'r dyddiad car Ddydd Mercher, Ebrill 16."
Mae rhestr cyflawn o'r ymgeiswyr i'w gael ar www.sirddinbych.gov.uk/pleidlais2008
Bydd manylion yr ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau tref a chymuned ar gael yr wythnos nesaf.

Rhoi adborth ar y tudalen hon