| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gorfodaeth Parcio Sifil
yellow lines

CYFLWYNIAD

Fe ymgymerir â gorfodaeth parcio er mwyn cadw ffyrdd yn ddiogel a thraffig i lifo ac i ddiogelu lles trigolion, yn cynnwys dalwyr Bathodynnau Glas. Bydd gweithdroad rheolaidd mannau parcio yn annog ymwelwyr, ac yn sicrhau y gall masnachwyr a thrigolion fynd ynglŷn â’u busnes yn hwylus heb oedi rhwystredig oherwydd parcio anghyfreithlon.

O Fawrth 31 2008 bydd Sir Ddinbych yn gweithredu rheoliadau parcio newydd a elwir yn Orfodaeth Parcio Sifil. Bydd y rhain yn gwneud gorfodaeth parcio’n decach ac yn fwy eglur, gan sicrhau darparu gyrwyr â gwasanaeth sy’n llawer gwell ac yn fwy cyson.

DEDDFWRIAETH

Mae Gorfodaeth Parcio Sifil ynrhan o Ddeddf Rheoli Traffig(2004), sy’n amcanu cadw traffig isymud. Mae’n cynnwys taliadaucosb uwch am dorri rheolau mwy difrifol, fel parcio ar linellau melyndwbl, a thaliadau is am dorrirheolau eraill, fel aros yn rhy hir arfesurydd.

YMARFER GORAU

Mae Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru (Sir Ddinbych, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn) wedi bod yn cydweithio’n agos i sicrhau cysondeb a safonau uchel.

BETH Y'W HYN YN FEDDWL I CHI?

•Fe gyfeirir at Weision Parcio fel Swyddogion Gorfodaeth Sifil
•Bydd dwy lefel o Daliadau Cosb yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos, a rhoddir rhestr lawn ohonynt ar y dudalen Cosb am Barcio

•Y gosb uwch fydd £70 (wedi ei gostwng i £35 os telir o fewn 14 diwrnod)
•Y gosb is fydd £50 (wedi ei gostwng i £25 os telir o fewn 14 diwrnod)
•Mewn rhai amgylchiadau ni fydd angen bellach rhoi Hysbysiad Taliad Cosb ar gerbyd, na’i rhoi i’r gyrrwr er mwyn ei gyflwyno’n gywir. Os na fydd y Swyddog Gorfodaeth Sifil yn gallu cyflwyno’r Hysbysiad ar y pryd, am ba reswm bynnag, gellir ei bostio i geidwad/berchennog cofrestredig y cerbyd
•Os caiff y cerbyd ei yrru i ffwrdd cyn cyflwyno’r Hysbysiad, gellir ei bostio i geidwad/berchennog cofrestredig y cerbyd
•Bydd gan feirniaid annibynnol a benodir ar ran y Llywodraeth fwy o bwerau i gyfeirio apeliadau Hysbysiadau Taliadau Cosb yn ôl pan fyddant yn ystyried y dylai’r Cyngor fod wedi defnyddio ei ddisgresiwn i ddiddymu’r Taliad Cosb ynghynt.

SUT Y GALLAF I OSGOI CAEL HYSBYSIAD TALIAD COSB?

•Peidiwch â pharcio ar linellau melyn dwbl oni bai eich bod yn llwytho/dadlwytho neu’n codi/olwg teithwyr. Bydd Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn gwylio cerbyd i sicrhau fod llwytho/dadlwytho’n amlwg
•Peidiwch â pharcio ar linellau melyn sengl yn ystod oriau cyfyngedig oni bai eich bod yn llwytho/dadlwytho neu’n codi/gollwng teithwyr. Fe ddylai fod yna arwydd gerllaw sy’n dweud wrthych pryd y mae’r cyfyngiadau hyn yn weithredol
•Parciwch yn union o fewn marciau’r man parcio. Mae cymryd mwy nag un lle yn peri rhwystr i yrwyr eraill sy’n ceisio ffeindio lle
•Cadwch arian parod yn eich car i dalu am docyn talu ac arddangos. Peidiwch â chymryd risg o fynd i chwilio am newid a gadael eich car mewn lle talu ac arddangos heb ddangos tocyn dilys
•Peidiwch â pharcio mewn mannau sydd wedi eu dynodi ar gyfer defnyddwyr eraill fel mannau anabl, safle bysiau a safleoedd tacsis
•Os ydych yn ddaliwr Bathodyn Glas, sicrhewch fod eich bathodyn wedi ei arddangos fel y gellir gweld y dyddiad dod i ben yn hawdd (h.y. y llun i lawr), a rhowchy cloc ar amser eich cyrhaeddiad. Ni ddylai gyrwyr anabl chwaith barcio mewn mannau sydd wedi eu dynodi ar gyfer defnyddwyr eraill.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0