Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau ei arolwg Statws Sengl dros 3500 o staff o weithwyr hyd uwch reolwyr .
Mae'r arolwg yn dilyn adroddiad gan Gomisiwn Tâl Llywodraeth Leol yn 2004 a chytundeb dilynol y National Joint Council i gyflogedig Llywodraeth Leol 2004-2007 sy'n cynnwys Awdurdodau yng Nghymru a Lloegr. Bydd yr arolwg Statws Sengl yn gweithredu cydraddoldeb tâl ac amodau.
Mae Sir Ddinbych wedi gweithio'n glos hefo'r undebau trwy'r broses gwerthuso swyddi. Bydd staff yn derbyn llythyr i ddweud beth mae'n ei olygu iddyn nhw. Bydd rhai cyflogau yn aros yr un fath, rhai yn mynd i fyny a rhai yn dod i lawr. Ar y cyfan bydd 73% o'r gweithlu yn cael budd o'r arolwg .
Bydd cyfnod gwarchod o dair blynedd i'r rhai fydd yn mynd i lawr, ni fydd neb yn syrthio o dan lefel 31 Mawrth 2008 yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gofynnir i aelodau'r Undeb bleidleisio ar y pecyn yn nes ymlaen yn y dyfodol.
Mae'r gost o weithredu yn sylweddol, yn cyrraedd £3m dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cyngor Sir wedi adeiladu hyn i mewn i Gynllunio Strategaeth dros y tair blynedd diwethaf .
Caiff y sefyllfa ei chymhlethu trwy achosion cyfreithiol sy'n creu mwy o ansicrwydd yn y sefyllfa. Mae Sir Ddinbych hefo Cynghorau eraill Gogledd Cymru wedi derbyn nifer o achosion tâl cydraddoldeb y mae yn eu hamddiffyn.
Meddai Ian Miller, y Prif Weithredwr: “Mae hyn yn cynrychioli trafodaethau hir a manwl hefo Undebau llafur dros y tair blynedd diwethaf. Gan ystyried yr holl waith a chymhlethdod yr achosion mae hyn yn gyflawniad ardderchog.
“Mae'r Cyngor Sir wedi cymeradwyo 'r cynigion yn ei gyfarfod ar Ionawr 22. Rydym yn parhau i weithio'n glos hefo'r undebau i egluro'r pecyn i staff a gobeithio sicrhau cymeradwyaeth ffurfiol trwy bleidlais”.

Rhoi adborth ar y tudalen hon