| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/08/2008 - Angen barn ar Gynllun Plant a Phobl Ifanc

Anogir plant, pobl ifanc a theuluoedd ac unigolion o gymunedau Sir Ddinbych fynegi barn ar gynlluniau i wneud gwahaniaeth i fywydau Plant a Phobl Ifanc yn y sir.

Mae partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych yn cynnwys 30 o gynrychiolwyr mudiadau sy'n darparu gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc. Mae hyn yn cynnwys ysgolion a gwasanaethau addysg eraill, Gwasanaethau Ieuenctid, gyrfau, mudiadau iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg Bellach, mudiadau gwirfoddol, yr Heddlu a'r gwasanaethau prawf .

Mae'r Bartneriaeth wedi llunio ei Gynllun Sengl sy'n nodi sut ellir datblygu gwasanaethau yn ystod 2008-2011.  Mae'r cynllun yn amlinellu amcanion i Blant a Phobl Ifanc a gefnogir hefo cyfres o flaenoriaethau:
• cael dechrau da i fywyd a'r sail orau i'w datblygiad yn y dyfodol
• cael amrediad o gyfleoedd Addysg, hyfforddiant a dysgu, gan gynnwys sgiliau personol a chymdeithasol
• mwynhau iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys rhyddid rhag camdriniaeth,
• cael chwarae, hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol
• cael rhywun i wrando arnoch, eich trin hefo parch a gallu cael cydnabyddiaeth o'u hil, a diwylliant
•  cael cartref a chymuned ddiogel i gefnogi iechyd Corfforol ac emosiynol
• dim anfanteision oherwydd tlodi.

Mae'r ddogfen ar gael ar www.denbighshire.gov.uk neu www.youthden.com neu gopi caled gan y Tîm Cynnal Partneriaeth, partneriaeth Plant a Phobl Ifanc , Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN.  Y dyddiad cau yw Mehefin 24. Neu e-bostiwch: partnership.support@denbighshire.gov.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0