| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/08/2008 - Teyrnged i Gynghorwyr

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau na fydd dau Gynghorydd yn sefyll yn etholiadau 1 Mai.

Y Cynghorydd David Jones MBE, Cadeirydd y Cyngor Sir yn 2001/02, a'r Cynghorydd Ken Hawkins, Cadeirydd presennol y Cyngor Sir

Talwyd teyrnged iddynt yn y cyfarfod heddiw, y cyfarfod Cyngor Sir llawn olaf cyn yr etholiadau.

Mae'r Cynghorydd Jones wedi cynrychioli Dinbych Uchaf  a Henllan dros Lafur ers creu Sir Ddinbych yn 1996. Gwasanaethodd ar gyngor bwrdeistref  Dinbych ers 1968 a bu ar Gyngor Dosbarth Glyndŵr o 1974. Bu yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych blwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a chafodd MBE i gydnabod ei gyfnod hir o wasanaeth cyhoeddus.

Bu'r Cynghorydd Hawkins yn Aelod Annibynnol dros Ruthun ers 1999. Bu'n Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a thair gwaith yn faer tref Rhuthun cyn dod yn ddirprwy Gadeirydd y Cyngor Sir yn 2006 ac yn Gadeirydd yn 2007.

Daeth sedd wag yn dilyn marwolaeth ym mis Ionawr  y diweddar Gynghorydd  Tom Hodgson, sy'n cynrychioli de'r Rhyl i'r Ceidwadwyr . Golyga hyn y bydd o leiaf dri Cynghorydd newydd yn cael eu hethol ar 1 Mai.

Mae Sir Ddinbych hefyd yn atgoffa pobl leol mai'r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Cyngor Sir a'r etholiadau Cymunedol yw 5pm dydd Mercher 16 Ebrill. Gellir gael ffurflen gofrestru ar 01824 706100 (Cymraeg) neu 706101 (Saesneg) neu o'r we: www.aboutmyvote.co.uk a rhaid eu dychwelyd i'r tîm etholiadol, ystafell 235, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0