Anogir grwpiau ethnig a lleiafrifol sy'n byw ac sy'n gweithio yn Sir Ddinbych i fynegi barn ar Gynllun Cydraddoldeb Hil newydd y sir sy'n gosod allan pa gamau fydd y Cyngor yn ei gymryd i wella gwasanaethau i grwpiau lleiafrifol.
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych rôl gymunedol ac mae hi'n bwysig ei fod yn arwain yr agenda cydraddoldeb fel cyflogwr mawr yn y sir ac fel darparydd gwasanaethau.
Mae'r cynllun yn cynnwys mesur perfformiad fel y gellir arolygu cynllun y Sir a'i fonitro.
Mae'r dogfennau ar gael ar www.denbighshire.gov.uk yn yr adran cydraddoldeb sydd ar y dudalen gyntaf. Mae copi caled ar gael ar david.davies@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 706146.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu sylwadau am hyn ffoniwch David Davies, Uned Polisi Strategol, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1YN. Y dyddiad cau i ymgynghori yw Mai 16.

Rhoi adborth ar y tudalen hon