Bydd tîm Bioamrywiaeth Sir Ddinbych yn galw am eich cymorth i fonitro bywyd gwyllt gerddi'r sir.
Mae'r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth hefo siroedd Conwy a Fflint, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Cofnod, Canolfan cofnodion lleol Gogledd Cymru, wedi cynhyrchu cerdyn post i annog pobl anfon cofnodion o'r bywyd gwyllt sy'n ymweld â'u gerddi.
Pan ddaw'r gwanwyn a gobeithio tywydd gwell, gellir gweld llawer o fywyd gwyllt yn y gerddi, yn canfod partneriaid, adeiladu nythod a pharatoi i fagu.
I lawer ohonom, gerddi yw'r lle i gysylltu hefo byd natur a gallant fod yn noddfa i anifeiliaid, cyffredin a phrin. Mae gerddi o dros 100,000 acer yng Nghymru, swm enfawr .
Tra na fyddant yn cymryd lle habitat priodol yng nghefn gwlad, neu yn helpu pob rhywogaeth, gallant ddarparu noddfa werthfawr neu le i wahanol fathau o fywyd gwyllt adfywio, gan gynnwys nifer o rywogaethau cenedlaethol sy'n prinhau megis y genau goeg copog, ystlumod, waxcap fungi a draenogod.
Meddai Kate Burgess, swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych: “Mae llawer y gallwch ei wneud i annog bywyd gwyllt i'r ardd heb ei droi yn llanast gwyllt, ond trwy gofnodi'r creaduriaid a welwch yno a faint ohonynt. Bydd hynny yn helpu gwarchod bywyd gwyllt trwy fesurau cadwraeth Cefn Gwlad”.
Mae cardiau post ar gael yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych neu ffoniwch Kate ar 01824 708234 neu agorwch wefan Cyngor Sir Ddinbych biodiversity@denbighshire.gov.uk . Bydd cyngor ar gael i chi ar sut i ddenu bywyd gwyllt i'ch gardd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon