| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/10/2008 - Myfyrwyr yn mynd i Ewrop

Mae ymweliad i senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg ar y cardiau i grŵp o fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Dinbych a ddefnyddiodd eu talentau creadigol mewn cystadlaethau ysgrifennu traethawd .

Trefnwyd y cystadlaethau gan Europe Direct Llangollen i hyrwyddo materion Ewropeaidd ac addysgu pobl am waith yr Undeb Ewropeaidd .

Bu 7 allan o 8 Ysgol Uwchradd yn Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth a gofynnwyd i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd ar "Europe: My Vision for the Future."

Bydd 25 o fyfyrwyr o Ysgol Dinas Bran (Llangollen),  Ysgol Uwchradd St Brigid’s (Dinbych), Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Brynhyfryd (Rhuthun), Blessed Edward Jones High School (y Rhyl) ac Ysgol Glan Clwyd (Llanelwy) yn dod i'r seremoni yn Rhuthun heno -  nos Iau, Ebrill 10,  ble cant dystysgrifau cyrhaeddiad gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd  Ken Hawkins.

Bydd y myfyrwyr fydd yn gadael i fynd i Strasbwrg ar Ebrill 24, yn cymryd rhan yn y rhaglen Euroscola, sy'n dwyn ynghyd fyfyrwyr Ysgol Uwchradd o 27 gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd i ganiatáu iddynt ddeall gwaith y senedd Ewropeaidd.

Cant gyflwyniad i senedd Ewrop ac i'r Undeb Ewropeaidd a byddant yn gweithio mewn grwpiau aml ieithoedd ar wahanol faterion yn y senedd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0