| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/11/2008 - Lansio cynllun eiddo gwag

Mae cynllun partneriaeth newydd ar gael rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chymdeithas Dai Gogledd Cymru i ddatblygu Strategaeth Tai gwag yn y sir  .
Bydd y bartneriaeth yn cyflogi swyddog Tai Gwag am y cyfnod dechreuol o dair blynedd i daclo problem eiddo gwag o fewn Sir Ddinbych.
Dyma'r bartneriaeth gyntaf o'i bath yng ngogledd Cymru ac os bydd yn llwyddiannus bydd yn brosiect  hir dymor a gallai fod yn esiampl i Awdurdodau eraill  ei ddilyn.
Mewn arolwg cyflwr tai yn sector preifat Sir Ddinbych amcangyfrifir bod 1,800 o dai gwag yn y sir.
Meddai Gareth Roberts, Rheolwr Tai ac Adnewyddu Sir Ddinbych: “Mae tai gwag yn cael effaith sylweddol ar Gymunedau gan olygu ymddygiad gwrthgymdeithasol. 
“Mae hefyd yn lleihau hyder a buddsoddiad yn yr ardal ac yn effaith niweidiol ar olwg yr ardal. Byddai dod ar eiddo hyn yn ôl yn gwella'r holl gymuned.
“Gobeithir y bydd y cynllun newydd hwn yn datrys y problemau yn ogystal â helpu perchnogion ganfod y ffordd orau o ddod a thai gwag yn ôl i ddefnydd a chynyddu'r nifer o dai fforddiadwy  ”.  

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0