Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymgynghoriad swyddogol ar gynlluniau i ad-drefnu addysg ôl 16 yn y Rhyl.
Ym mis Chwefror, cytunodd Cabinet Sir Ddinbych i'r Cyngor ymgynghori ar y cynlluniau i gau y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones. Bydd y cynllun yn cynnwys darparu addysg ac hyfforddiant ôl 16 yng Ngholeg Llandrillo Y Rhyl.
Bydd digwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal yng Ngholeg Llandrillo Y Rhyl ar Ebrill 28ain ar gyfer rhieni, y gymuned addysg a busnesau lleol. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi ar y wefan ac yn y wasg yn fuan.
Dylai unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu gyrru at y Gwasanaeth Gwelliant Ysgol, Cyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes, Cyngor Sir Ddinbych, Trem Clwyd, Canol y Dre, Rhuthun, LL15 1YN, neu drwy e-bost at: admineducation@denbighshire.gov.uk

Rhoi adborth ar y tudalen hon