| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/14/2008 - Gwahodd ceisiadau am brosiect celf gyhoeddus

Bu prosiect partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych , Cyngor Tref Prestatyn, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyfeillion rheilffordd Prestatyn yn llwyddiannus yn derbyn £72,000 o grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i dri phrosiect celf gyhoeddus yn y dref.

Mae'r gweithiau hyn i'w gweld wrth orsaf rheilffordd Llundain i Gaergybi (2 ddarn o waith); ar y promenâd, sy'n ddiwedd taith 177 milltir Llwybr Clawdd Offa gan gynnwys llwybr beicio SUSTRANS; a safle derfynol gerddi ger y Daith wrth ddisgyn o Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ger tref Prestatyn.

Mae' r prosiect yn agored  i artistiaid ac i glybiau artistiaid sy'n gallu dangos gallu artistig i ddehongli elfennau pwysig y safleoedd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd a dangos gallu i gyflwyno eu cysyniadau, wrth ychwanegu gwerth at yr amgylchedd.

Gwahoddir artistiaid i wneud cais am brosiectau unigol . Ffoniwch Michelle Rendell ar 01824 706668 neu e-bostiwch: businesssupport@denbighshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth  .

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0