| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Rheoli Datblygiad Priffyrdd

Rheoli Datblygiad Priffyrdd


Adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd sy’n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw geisiadau cynllunio sy’n effeithio ar y briffordd bresennol, neu sy’n cynnwys adeiladu unrhyw briffordd newydd, yn cael eu gwneud yn unol â safonau a manylebau Cyngor Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys adeiladu unrhyw fynedfa gerbydau newydd ar y briffordd gyhoeddus, er na fydd hyn bob amser yn gofyn cael caniatâd cynllunio (gwelwch dudalen ar wahân i gael rhagor o fanylion).
Bydd angen i unrhyw ddatblygwr sydd naill ai’n adeiladu ffyrdd newydd fel rhan o unrhyw ddatblygiad tai newydd, neu sy’n gwneud gwaith o fewn y briffordd bresennol, fynd i gytundeb cyfreithiol gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau bod holl waith yn cael ei ddylunio a’i gwblhau i safon fabwysiadwy. Mae rhagor o fanylion ac amlinell manylebau i’w cael trwy ddilyn y cysylltiadau ar y dudalen hon.


Gwybodaeth i Ddatblygwyr


Rhaid dylunio ac adeiladu unrhyw ffyrdd, palmentydd neu ymylon newydd yn unol â Chanllaw Dylunio Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych. (Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar ffurf atodion pdf i’r dudalen hon.) Bydd angen i holl ddatblygwyr fynd i gytundeb cyfreithiol yn unol â Deddf Priffyrdd 1980, Adran 38 (ar gyfer adeiladu o’r newydd) neu Adran 278 (ar gyfer gwaith o fewn priffordd bresennol). Yn ogystal mae’n ofynnol bod ymrwymiad yn bodoli cyn dechrau, o werth digonol i sicrhau bod cyllid ar gael os digwydd i’r datblygwr fynd yn fethdalwr.


Mynedfeydd Cerbydau Newydd


Mae angen caniatâd cynllunio i greu unrhyw fynedfa newydd ar ffordd ddosbarthedig, sy’n cynnwys ffyrdd dosbarth A, B ac C. I gysylltu â thîm cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, cliciwch ar y cyswllt ar ochr chwith y dudalen hon. Gallwch gyflwyno cais ar-lein trwy’r porth cynllunio ar yr un dudalen. Os ydych yn ansicr o ddosbarthiad y ffordd, neu os ydych eisiau trafod y broses yn fwy manwl, cofiwch gysylltu â ni trwy’r cyswllt e-bost neu dros y ffôn. Rhaid adeiladu pob croesfan gerbydau sy’n mynd dros y palmant neu ymyl y briffordd, boed hynny ar ffordd ddosbarthedig neu annosbarthedig, yn ôl manyleb Cyngor Sir Ddinbych. Cyfeiriwch at y ddalen atodol i gael manylion llawn a phecyn gwneud cais.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0