| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Deddf Rheoli Traffig

Deddf Rheoli Traffig 2004

Ar waethaf ei henw, ni ddaw’r ddeddfwriaeth hon i rym yn llawn tan 2008. Mae’n cyflwyno Dyletswyddau Rheoli’r Rhwydwaith arbennig, i helpu ac annog awdurdodau traffig lleol (Cyngor Sir Ddinbych) i leihau tagfeydd traffig trwy gydgysylltu’n fwy effeithiol yr amrywiol waith sy’n cael ei wneud ar y stryd, boed yn waith ffordd yr awdurdod, gwaith stryd y gwasanaethau neu amrywiol weithgareddau fel gosod sgipiau, sgaffaldiau a dyddodion ar y briffordd. Mae hefyd yn gofyn cydgysylltu unrhyw weithrediad all effeithio ar y rhwydwaith priffyrdd, er enghraifft casglu gwastraff, dosbarthu nwyddau, cludiant ysgol a digwyddiadau fel carnifalau, achlysuron chwaraeon ac ati, yn ogystal â chyflwyno amrywiaeth o bwerau newydd i ganiatáu rheoli gwaith y gwasanaethau’n well trwy sefydlu Cynllun Caniatâd Rheoli Traffig 2007. Mae hefyd yn caniatáu i Swyddogion Gorfodi Sifil ddelio â rhai toriadau cyfraith, fel troseddau parcio, trwy ddulliau sifil yn hytrach na thrwy brosesau troseddol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0