Gwaith Cymdeithasol yn yr Ysbyty
Pa wasanaethau a gynigir?
Cynnigiwn wasanaeth o fewn yr ysbyty. Gallwn eich cynorthwyo chi a'ch teulu i ddelio gydag amrywiaeth o faterion personal ac ymarferol sy'n deillio o'ch arhosiad yn yr ysbyty.
- Asesu - i greu darlun o'r math o help fyddwch ei angen.
- Gwybodaeth - ynglþn â'ch hawliau, â'ch dewisiadau.
- Cefnogaeth - i'ch helpu os byddwch yn teimlo'n bryderus tra'n yr ysbyty.
- Cymorth wrth fynd o'r ysbyty - drwy gydweithio â meddygon, nyrsus ac eraill, gallwn eich cynorthwyo i gynllunio'ch gofal pan ewch allan o'r ysbyty.
- Cynghori - ar gyfer cleifion, perthnasau, gofalwyr ac eraill.
- Cysylltu - gyda'r ysbyty ac asiantaethau eraill megis gofal cartref, pryd ar glud adran dai, budd-daliadau.
Lle rydym ni?
'Rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, ond hefyd yn cynnig gwasanaeth yn ysbytai Abergele (i drigolion Sir Ddinbych yn unig), Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy, Inffirmari Dinbych, Ysbytai Cymunedol Llangollen a Rhuthun.
Sut i gysylltu â ni
Tim Cyswllt Cyntaf 01824 712900
- Gallwch gysylltu â ni yn bersonol, neu ofyn i aelod o staff ar y ward wneud hynny drosoch.
- Os oes arnoch angen cymorth gwethiwr cymdeithasol, gofynwch more fuan â phosibl.
- Cynigiwn wasanaeth yn yr iaith o'ch dewis chi, lle bo'n bosibl.

Rhoi adborth ar y tudalen hon