| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Caniatâd Codi Sgaffald
Sgaffald

Caniatâd Codi Sgaffald

Rhaid peidio â chodi sgaffald heb ganiatâd.
Os ydych eisiau rhoi unrhyw sgaffald ar y briffordd gyhoeddus gan gynnwys ffordd, llwybr troed, llain ymyl ffordd neu stryd gefn, rhaid i chi gael caniatâd Cyngor Sir Ddinbych. Ni sy’n trwyddedu sgaffaldiau er mwyn sicrhau;

 lleoli a chodi sgaffaldiau’n ddiogel,
 diogelwch defnyddwyr eraill ffyrdd a llwybrau troed, a
 dal i’w defnyddio’n ddiogel.

Os ydych eisiau codi sgaffald allai achosi rhwystr, bydd angen i chi gysylltu â chwmni sgaffaldio. Yna byddant yn cysylltu â ni i drefnu caniatâd ar gyfer pob ffordd dan sylw. Rhaid i’r unigolyn neu gwmni sy’n gyfrifol am y sgaffald roi tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gwerth £5,000,000. Tra bo Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn rhywbeth a ddylai fod gan holl adeiladwyr a chontractwyr, bydd yn aml yn cael ei gynnwys yn yswiriant tai unigolion preifat.
Mae tâl yn cael ei godi am bob caniatâd, sy’n para am hyd at fis. Os yw’r sgaffald i fod yno am fwy na mis, bydd raid gwneud cais am ganiatâd newydd cyn i’r un gwreiddiol ddod i ben.

Mae ffurflen gais am ganiatâd isod. Llenwch hi mewn print bras a’i dychwelyd i,
Cyngor Sir Ddinbych,
Trafnidiaeth ac Isadeiledd,
Uned Gwaith Stryd,
CALEDFRYN
Ffordd y Ffair,
Dinbych, LL16 3RJ.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0