| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/15/2008 - Sir Ddinbych yn cefnogi wythnos napis go iawn

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio hefo Waste Awareness Wales a Sustainable Wales i annog rhieni newydd ystyried defnyddio napis iawn ar eu plant .

Bydd wythnos napis iawn  eleni (21-27 Ebrill) yn cael ei lansio gan y ddarlledwraig  Lucy Owen sy’n fam newydd .

Am bob plentyn yn Sir Ddinbych mae tua 5,000 o napis papur wedi'u hanfon i safleoedd tirlenwi felly mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhieni i ddefnyddio napis iawn i helpu arbed yr amgylchedd a'u waledi .

Mae napis wedi gwella llawer ers dyddiau tery towelling a safety pins - y dyddiau yma maent mewn lliwiau hardd  wedi'u siapio a'u cau hefo poppers neu ddefnydd. Maent yn hawdd eu golchi dim angen eu berwi neu fwydo. Bydd y napis yn helpu'r amgylchedd - a gellir arbed hyd at £500 ar y plentyn cyntaf!
Meddai Lucy:  “Rwy'n falch o fod yn rhan o wythnos napis iawn - fel mam newydd, ac mae defnyddio napis iawn yn rhywbeth i’w ystyried i Gabriel.”

Bydd Waste Awareness Wales yn cynhyrchu calendr o fabanod mewn napis i helpu lledaenu'r neges ac maen nhw'n chwilio am seren i'r calendr. Os teimlwch y gallai eich babi chi fod yn wyneb napis go iawn yna anfonwch lun diweddar hefo enw a manylion cyswllt at  Waste Awareness Wales, Golley Slater, Wharton Street, Wharton Place, Caerdydd, CF10 1GS.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0