| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Carnifalau a Phartïon ar y Stryd
Phartïon ar y Stryd

Carnifalau a Phartïon ar y Stryd

Mae angen caniatâd yr Awdurdod Priffyrdd (Cyngor Sir Ddinbych) i gynnal pob carnifal, parti ar y stryd, ras feiciau, achlysur chwaraeon neu unrhyw ddigwyddiad arall wedi’i drefnu sy’n digwydd ar y briffordd gyhoeddus.

Os oes angen cau unrhyw ffordd dros dro neu orchymyn traffig ffyrdd arall rhaid rhoi digon o rybudd i alluogi prosesu’r gorchymyn a threfnu unrhyw lwybrau gwyro. Gwelwch dudalen ar wahân i gael manylion am ofynion cau ffordd.

Mae taliad sylfaenol am hyn ynghyd ag unrhyw gostau ychwanegol yn ymwneud â thynnu sylw at gau’r ffordd a hysbysu’r gwasanaethau brys a defnyddwyr ffyrdd arwyddocaol eraill fel cwmnïau bysiau. Hefyd rhaid talu am yr holl arwyddion a chonau sy’n angenrheidiol yn ôl barn yr Awdurdod Priffyrdd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0