| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/16/2008 - Llwyddiant y Fenter Ddarllen yn Sir Ddinbych

Cymerodd mwy o blant o Sir Ddinbych ran yn y Fenter Ddarllen Wyllt nag o unrhyw ran arall o Gymru. Mae ffigyrau a ryddhawyd yr wythnos hon gan y Reading Agency yn dangos taw Sir Ddinbych oedd ar y brig o awdurdodau yng Nghymru am y nifer o blant yn cymryd rhan ac yn cwblhau'r Sialens Ddarllen Haf yn 2007, sef y Fenter Ddarllen Wyllt / The Big Wild Read.

Cymerodd 3056 o blant ran yn Sir Ddinbych - 225% yn fwy na'r cyfartaledd yn yr awdurdodau Cymreig (1357) a 162% yn fwy'r cyfartaledd yn awdurdodau'r Deyrnas Gyfunol (1878). Cwblhaodd 2093 o blant Sir Ddinbych y sialens - 288% yn fwy na'r cyfartaledd Cymreig (727) a 234% yn uwch na'r cyfartaledd drwy'r DG (894). Roedd y raddfa cwblhau o 68% yn Sir Ddinbych hefyd yn llawer uwch na'r cyfartaledd Cymreig o 54% a'r cyfartaledd yn y DG o 52%. Roedd y raddfa o fechgyn yn cymryd rhan hefyd yn uwch na'r cyfartaledd yn y DG - 47% o'i gymharu â 41.3%.

Y Sialens Ddarllen Haf yw'r hyrwyddiad darllen fwyaf yn llyfrgelloedd y DG ac mae'n rhoi her bersonol i blant, gyda'r bwriad o'u cadw nhw'n darllen yn ystod y toriad haf o'r ysgol. Mae plant yn cael gwobrau i'w hannog i ymweld â'u llyfrgell trwy gydol yr haf ac i ddarllen o leiaf chwe llyfr. Mae'n her bersonol i bob plentyn ac yn addas i bob gallu a diddordeb. Mae pawb sy'n cwblhau yn derbyn medal a thystysgrif. Mae Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych yn gweithio'n agos gyda phob ysgol gynradd yn y sir i hyrwyddo'r sialens ac i annog plant i gymryd rhan.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0