Gall ymwelwyr a bryngaer Pen y Cloddiau ger Llangwyfan, gael cyfle i weld gwaith archeolegol yn ystod mis Mai.
Rhwng Mai 7 a 10, bydd archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Clwyd-Powys Archaeological Trust, o'r Trallwng, yn archwilio mannau uchaf y fryngaer i geisio dyddio'r gaer sydd yno.
Bydd y prosiect Y Grug a'r Bryniau yn arwain teithiau i'r fryngaer bob dydd ac yn darparu gwybodaeth am fywyd ar y bryniau ers Oes yr Haearn 2,500 mlynedd yn ôl.
Dechrau o faes parcio Coed Llangwyfan (SJ 139668). Meddai'r swyddog Cadwraeth, Samantha Williams, fydd yn arwain y teithiau “Pen y Cloddiau yw'r fryngaer fwyaf yng Nghymru. Fe'i hadeiladwyd yn oes yr Haearn (800BC-43AD) ac mae golygfeydd anhygoel o'r copa dros Fryniau Clwyd. Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu am hanes y fryngaer a chyfarfod yr archeolegwyr wrth eu gwaith.”
Bydd y daith yn para tua 2 awr, dechrau am 2pm ddydd Mercher a dydd Iau ac am 10am ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Dim rhaid trefnu lle ymlaen llaw.
Bydd y treial yn dibynnu ar y tywydd.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Samantha Williams 01824 708232.

Rhoi adborth ar y tudalen hon