| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/16/2008 - Maes parcio Corwen

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybodaeth i breswylwyr ac ymwelwyr Corwen bod maes parcio Green Lane wedi agor yn rhannol i fodurwyr.

Mae ychydig o lefydd parcio ar gael yn y maes parcio, a disgwylir mwy o welliannau yn yr wythnosau nesaf.

Bydd mwy o lefydd yn y maes parcio cyn gynted â phosib.

Mae'r cynllun yn cynnwys ail wynebu'r maes parcio cyfredol, cynyddu maint a darparu mwy o lefydd parcio, mwy o lefydd i fysus barcio a gwell goleuadau stryd.

Yn ystod y gwaith trefnwyd parcio gan y Cyngor yn y maes parcio ger y farchnad anifeiliaid, ac yn y maes parcio ger y pafiliwn. Bydd y trefniant hwn yn parhau hyd ddiwedd y gwaith.

Hoffai'r Cyngor Sir ddiolch i breswylwyr a busnesau lleol am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0