| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/17/2008 - Sir Ddinbych yn parhau’r frwydr yn erbyn trosedd amgylcheddol

Bydd Swyddogion Gorfodi Cyfleusterau Arfordirol Sir Ddinbych yn cynyddu eu cylchwylio o gwmpas Y Rhyl a Phrestatyn yn ystod yr wythnosau nesaf.


Mae nifer o fannau poeth wedi eu nodi, lle mae troseddau fel sbwriel a chŵn yn maeddu’n digwydd.  Mae’r rhain yn cynnwys y Marine Lake, meysydd parcio East Parade a Splash Point.


Mae’r swyddogion, sy’n rhan o Wasanaethau Hamdden, eisoes wedi bod yn cylchwylio’n gynnar y bore a chyda’r nos ac yn siarad â’r cyhoedd.


Meddai Ian  Olson,  aelod o’r tîm, “Rydym wedi bod yn delio â hyn mewn ffordd weithredol  drwy siarad ag aelodau’r cyhoedd i gychwyn ynglŷn â’r deddfau a buom hefyd yn dosbarthu bagiau baw cŵn.  Os gwelir rhywun nad yw’n clirio ar ôl ei gi bydd yn derbyn gwŷs am y drosedd ac efallai y rhoddir dewis iddo o dalu hysbysiad cosb benodol o £75.  Bydd yr un peth yn gymwys i’r rheiny sy’n gollwng sbwriel ac yn tipio’n anghyfreithlon.”


O Fai  1  -  Medi 30, bydd is-ddeddfau wedi eu sefydlu sy’n gwahardd cŵn o rannau arbennig o draethau’r Rhyl a Phrestatyn.  Dangosir arwyddion clir o fewn yr ardaloedd hynny a gellir cael gwybodaeth bellach yn cynnwys map o’r ardaloedd cyfyngedig o’r Canolfannau Croeso yn Y Rhyl (01745 344515) neu Brestatyn (01745 889092).

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0