Mae’r seremoni hon ar gyfer unrhyw gwpl sy'n dymuno dathlu adnewyddu eu haddewidion priodas/partneriaeth sifil mewn seremoni unigryw a phersonol. Yn aml, cynhelir y seremonïau ar gyfer pen blwydd arbennig, megis y degfed, pumed ar hugain, deugeinfed a.y.y.b. er, mewn gwirionedd, gellir eu cynnal ar unrhyw adeg.
Gall Seremoni Adnewyddu Addewidion hefyd fod yn addas pan fo cyplau'n dymuno adnewyddu eu hymrwymiad y naill tuag at y llall ar ôl cyfnod anodd neu waeledd. Hefyd, mae sawl cwpl sy’n priodi dramor yn dewis dathlu gyda theulu a chyfeillion gyda'r math yma o seremoni.
Gellir cynnal y Seremoni yn unrhyw un o’n Swyddfeydd Cofrestru neu Eiddo Cymeradwy a gall gynnwys darlleniadau, cerddoriaeth, ail gyflwyno modrwyau - bydd y Cofrestrydd yn falch o’ch helpu a’ch cynghori. Byddwch yn cael tystysgrif i gofio. Nid oes dim statws cyfreithiol i’r seremoni hon.
Mae ffi’n daladwy am y seremonïau hyn. Cysylltwch â Swyddfa'r Cofrestrydd un ai yng Ngogledd Sir Ddinbych ar 01745 366610/11 neu ar gyfer De Sir Ddinbych ar 01824 706174 yn dibynnu ar ble'r hoffech i’ch seremoni gael ei chynnal.
Ffioedd – arolygir yn flynyddol ar 1af Ebrill
| Adnewyddu Addewidion | £50 blaendal na ellir ei ad -dalu wrth drefnu |
| Swyddfa Gofrestru | £45 |
| Eiddo cymeradwy: | |
| Llun - Gwener | £110 |
| Sadwrn | £125 |
| Sul / Gwyliau Banc | £150 |

Rhoi adborth ar y tudalen hon