| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/21/2008 - Gweithdy drama ym Mhant Pastynog

Cafwyd tipyn o ddrama ymysg y plant mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych ar gyfer gweithdy arbennig a drefnwyd gydag actores deledu sy’n wreiddiol o Ddyffryn Clwyd.


Treuliodd Manon Elis, a fagwyd yn Llandyrnog, amser yn gweithio gyda disgyblion yn Ysgol Pant Pastynog, Prion i wella eu sgiliau creadigol mewn cymeriadaeth, meim, canu, symudiad a darllen sgript


Caniataodd y gweithdai i’r plant weithio fel tîm, i wella eu sgiliau cyfathrebu a gwella eu hyder.  Daeth y gweithdai i ben gyda chyfle i rieni ymweld â’r ysgol a gweld eu plant yn perfformio.


Mae Manon yn chwarae rhan Michelle yn sioe S4C ‘Rownd a Rownd’.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0