| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/21/2008 - Deiseb am yr Asiantaeth Gymunedol

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau bod y Prif Weithredwr wedi derbyn gwahoddiad gan Undeb Gredyd Arfordir Clwyd, dyddiedig Ebrill 15, yn gofyn iddo dderbyn deiseb heddiw (Llun Ebrill 21) am 2pm am y diswyddiadau arfaethedig yn yr Asiantaeth Gymunedol.  Nid oedd ar gael i fod yno oherwydd ymrwymiadau a oedd eisoes yn bod ac fe hysbyswyd yr Undeb Gredyd o hynny.
 
Methodd llythyr yr Undeb Gredyd â dweud y cyflwynid y ddeiseb gan Ann Jones AC.  Fe adroddwyd ei hymglymiad yn y ‘Rhyl, Prestatyn and Abergele Journal’ ar Ebrill 16.
 
Yn unol â’r arweiniad a gyhoeddwyd gan y cyngor am gyfnod yr etholiad, nid yw’n briodol i staff y cyngor fod ynghlwm ag unrhyw ddigwyddiad y gellid ei ddehongli i fod yn ceisio hyrwyddo parti gwleidyddol arbennig.
 
Dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Miller,  'Mae’n siom fod Undeb Gredyd Arfordir Clwyd yn ymddangos i fod wedi ceisio camarwain y cyngor a mi i gymryd rhan mewn digwyddiad sy’n ymddangos i fod yn un gwleidyddol’

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0