| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/21/2008 - Peidiwch a gadael manylion personol yn y golwg

Mae swyddogion Safonau Masnach Conwy a Sir Ddinbych yn annog pawb i fod yn arbennig o ofalus am y ffordd y maent yn gwaredu eu post a’u dogfennau personol wedi i bapurau oedd yn cynnwys gwybodaeth bersonol gael eu gweld mewn safle amwynder dinesig yn Abergele.


Roedd y dogfennau wedi eu gadael yn anfwriadol gan aelod o’r cyhoedd ond fe allai’r wybodaeth fod wedi mynd i ddwylo anghywir.  Fe adroddwyd y mater i reolwr y safle gan y bobl a ddaeth o hyd iddyn nhw.


Os nad ydi pobl yn carpio ac yn gwaredu eu dogfennau’n ofalus maent yn wynebu risg gwirioneddol o fod yn ddioddefwyr twyll hunaniaeth sydd ag oblygiadau difrifol.


Meddai Prif Swyddog Safonau Masnach Sir Ddinbych, Tony Young: “Mwya’n y byd o wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanoch chi, gorau yn y byd fydd y proffil personol fydd ganddyn nhw i weithio ag o.  Os nad ydych yn carpio’ch dogfennau personol rydych yn ei gwneud yn haws iddyn nhw.”


Mae Dave Beesley, Prif Swyddog Safonau Masnach Cyngor Conwy yn cytuno, ac meddai: “Mae’n hanfodol cymryd gofal mawr wrth storio a gwaredu dogfennau personol,  gall gweithrediadau syml fel carpio dogfennau personol, ailgyfeirio post a chadw papurau pwysig dan glo wneud byd o wahaniaeth.”


Mae gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref yn datgan:: “Mae troseddwyr yn cyflawni twyll hunaniaeth drwy ddwyn ein gwybodaeth bersonol.  Gwneir hyn yn aml drwy gymryd dogfennau o’ch sbwriel neu drwy gysylltu â chi a chymryd arnynt eu bod gyda sefydliad cyfreithlon.”


“Mae eich hunaniaeth a’ch gwybodaeth bersonol yn asedau gwerthfawr os byddant yn mynd i ddwylo anghywir.  Cadwch nhw’n ddiogel.”
Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol ar dwyll hunaniaeth
•        Cynghorir pobl i gael copïau rheolaidd o’u hadroddiadau credyd gan asiantaeth cyfeiriad credyd cyfrifol
•        Peidiwch â thaflu biliau cyflawn, talebau, slipiau cardiau credyd neu ddebyd, cyfriflen banc na hyd yn oed bost diangen yn eich enw chi.
•        Dinistriwch ddogfennau nad oes eu hangen, drwy ddefnyddio carpiwr yn ddelfrydol.
•        Hefyd, peidiwch byth â rhoi manylion cyfrif personol i unrhyw un sy’n cysylltu â chi’n annisgwyl.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0