04/21/2008 - Ad-drefnu addysg ôl 16 yn y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi manylion dau gyfarfod ymgynghorol i alluogi aelodau'r cyhoedd i leisio barn ar yr ad-drenu addysg ôl 16 arfaethedig yn y Rhyl.
Bydd y cyfafodydd yn cymryd lle yng Ngholeg Llandrillo Y Rhyl, Ffordd Cefndy, Rhyl ddydd Llun, Ebrill 28 am 2pm a 7pm.
Ym mis Chwefror, cytunodd Cabinet Sir Ddinbych i'r Cyngor ymgynghori ar y cynlluniau i gau y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones. Bydd y cynllun yn cynnwys darparu addysg ac hyfforddiant ôl 16 yng Ngholeg Llandrillo Y Rhyl.
Byddai Coleg Llandrillo Y Rhyl yn gyfrifol am addysg ôl 16 yn y Rhyl o 2009 ac mi fyddai canolfan chweched dosbarth yn agor yn ystod 2010.

Rhoi adborth ar y tudalen hon