| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Coed a Gwrychoedd yn Crogi Drosodd
hedges and trees

Coed a Gwrychoedd yn Crogi Drosodd

Fel arfer, perchennog y tir cyffiniol sy’n gyfrifol am wrychoedd a choed ar hyd terfyn y briffordd. Mae angen eu tocio rhag bod canghennau wedi gordyfu’n rhwystro cerddwyr, yn amharu ar linellau gweld gyrwyr neu’n cuddio arwyddion traffig. Os ydynt yn cael gordyfu a pheri rhwystr i gerbydau neu gerddwyr, mae gan y Cyngor bwerau gorfodi i fynnu bod y perchennog yn eu tocio.


Dan amgylchiadau eithafol lle bo planhigion yn cael tyfu ar neu dros y briffordd gall y Cyngor, os aiff hi i’r pen, gyflwyno ‘Rhybudd Torri Gwrychoedd’ yn unol ag adran 154 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae hyn ar ffurf llythyr sy’n mynnu bod perchennog yn tocio’r planhigion sy’n crogi drosodd o fewn 14 diwrnod. Os na chaiff hyn ei wneud, mae gan y Cyngor y pŵer i wneud y gwaith a chodi ar y perchennog.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0