| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Mwd ar y Ffordd
muddy road

Mwd ar y Ffordd

Fel awdurdod priffyrdd mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am y briffordd ac mae dyletswydd statudol arnom i sicrhau bod holl ddefnyddwyr yn gallu mynd a dod yn ddiogel.

Mae’n drosedd dan Adran 148 o Ddeddf Priffyrdd gollwng mwd / malurion ar y briffordd. Fe all yr heddlu neu’r awdurdod priffyrdd erlyn unrhyw droseddwr.

Fe all mwd a malurion eraill gael eu llusgo i’r ffordd o ganlyniad i weithgareddau amaeth, safleoedd adeiladu a digwyddiadau eraill fel ebolgampau, ralïau carafanau neu sioeau, yn enwedig os yw hi’n digwydd bod yn wlyb. Dylai pawb sy’n gyfrifol am unrhyw un o’r uchod ddarparu ar gyfer glanhau’r ffordd a gosod arwyddion rhybuddio. Dylai arwyddion rhybuddio fod yn arwyddion trionglog “Ffordd Lithrig”. Nid yw arwyddion cartref, wedi’u paentio â llaw, yn gyfreithlon a gallant hwy yn eu tro ffurfio rhwystr diawdurdod.

Dan Adran 149 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n ddyletswydd ar y Cyngor Sir i lanhau’r ffordd ac mae ganddo’r pŵer i godi am wneud hynny ar y rhai sy’n gyfrifol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0