Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi fod 12,400 o bleidleisiau post ar gyfer yr etholiadau sirol a chymunedol fydd yn digwydd ar Fai 1 wedi eu postio ar Ebrill 16.
Mae hyn yn cynrychioli 16.8% o’r etholaeth. Credir mai Sir Ddinbych yw’r cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i ddyrannu pleidleisiau post ar gyfer yr etholiadau hyn.
Mae’r cyngor wedi cyhoeddi hefyd y gwnaethpwyd dros 250 o welliannau ac ychwanegiadau i’r gofrestr etholaethol erbyn y terfyn amser ar Ebrill 16. Mae cyfanswm yr etholaeth yn awr yn 73,815, cynnydd o 9.17% ar yr etholiadau lleol diwethaf yn 2004.
Er ei bod yn rhy hwyr yn awr i gofrestru i bleidleisio ar Fai 1, mae’r cyngor yn annog pob etholwr cofrestredig i ddefnyddio’u pleidlais. Mae’r swyddog etholiad wedi atgoffa pobl sydd â phleidlais bost i’w cwblhau a’u dychwelyd mewn da bryd, fel eu bod yn gynwysedig yn y cyfrif.
Gellir cyflwyno pleidleisiau post, yn eu hamlenni, mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn Sir Ddinbych ar Fai 1.

Rhoi adborth ar y tudalen hon