Fe werthodd traean o siopau baent aerosol yn anghyfreithlon i rai dan 16 mewn gweithred prynu prawf gan Safonau Masnach Sir Ddinbych yn ddiweddar.
Ers Mawrth 31 2004, mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 wedi ei gwneud yn drosedd i werthu paent chwistrell i unrhyw un sydd dan 16 oed. Gall gwerthiannau anghyfreithlon fel hyn arwain at erlyniad, gyda photensial am ddirwy o £2,500.
Yn ystod y prynu prawf, methodd llawer o’r adwerthwyr â gofyn am brawf oed, er bod gan rai siopau nodyn atgoffa ar y til i atgoffa staff. Fe gysylltwyd â phob un o’r adwerthwyr yr ymwelwyd â hwy, yn cynnwys y rhai a wrthododd werthu nwyddau i’r plentyn dirgel, a’i gwneud yn ymwybodol o’r canlyniad.
Mae gwerthiant paent aerosol i blant yn cyfrannu tuag at ledaeniad graffiti. Credir mai plant sydd dan 16 oed sy’n gyfrifol am oddeutu 60% o graffiti. Mae ymchwil wedi dangos fod graffiti, ysbwriel a dirywiad cyffredinol cymdogaeth yn effeithio’n anghymesur ar synnwyr pobl o ddiogelwch pobl ac eiddo yn y gymuned honno.
Meddai Tony Young, Prif Swyddog Safonau Masnach Sir Ddinbych, “Roedd yr ymarferiad yn ceisio dangos lefel cydymffurfiad ein siopau â’r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Er mai hap-enghraifft fach ydyw o rai yn unig o’n hadwerthwyr, mae’r canlyniadau’n siomedig iawn.
“Mae ymarferion prynu prawf pellach wedi eu cynllunio a bydd gweithredu gorfodi cadarn yn aros y rhai hynny sy’n gwerthu unrhyw gynnyrch sy’n gyfyngedig i oed yn amhriodol. Caiff adwerthwyr a’u staff brawf i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac mae’n rhaid i bawb fod yn hynod wyliadwrus pan fydd pobl ifanc yn ceisio prynu’r fath gynnyrch, yn cynnwys gofyn am brawf o’u hoed bob amser.”
Ers mis Awst 2007, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn 150 o adroddiadau o graffiti, ac roedd angen adnoddau drud i’w dileu. Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych, gan weithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaetha Profiannaeth, STARS (Wardeniaid) Gogledd Cymru a’r Cyngor wedi bod yn dargludo dull cydlynol o daclo graffiti’n effeithiol.
I adrodd am graffiti yn Sir Ddinbych ffoniwch 01824 706100 (Cymraeg) neu 01824 706101 (Saesneg)

Rhoi adborth ar y tudalen hon