| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/22/2008 - Clwb Pel Droed Wrecsam yn gweithio gyda ysgol o Ddinbych

Mae Clwb Pêl Droed Wrecsam yn cychwyn ar bartneriaeth blwyddyn ag ysgol yn Ninbych.


Mae disgyblion yn Ysgol Heulfre, Dinbych yn cael hyfforddiant arbennig iawn mewn menter blwyddyn rhwng yr ysgol a Chlwb Pêl Droed Wrecsam.


Esboniodd y Prifathro, Colin Roberts, fod yr ysgol wedi gweithio gyda Chlwb Pêl Droed Wrecsam ar nifer o brosiectau dros y blynyddoedd ond mae’n awr yn falch iawn o gael croesawu staff yn ystod oriau ysgol a hefyd ar gyfer prosiect ar ôl ysgol.  


Dros gyfnod o ddeuddeng mis byd Clwb Pêl Droed Wrecsam yn gweithio i gefnogi cwricwlwm Addysg Gorfforol ac ar nos Iau gall y plant hefyd gymryd rhan mewn Clwb Ar ôl Ysgol sy’n seiliedig ar chwaraeon a hynny am ddim.


Mae’r sesiynau ar ôl ysgol yn golygu nifer o weithgareddau chwaraeon gwahanol a bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth werthfawr i’r plant am sgiliau’r gwahanol chwaraeon.


Meddai’r Prifathro, Colin Roberts: “Mae’r ffordd y mae Clwb Pêl Droed Wrecsam wedi paratoi a chynllunio ar gyfer y fenter hon wedi creu argraff dda iawn. 


“Gall y math yma o fenter a gwaith partneriaeth roi hwb gwirioneddol i’r cwricwlwm ac i weithgareddau ar ôl ysgol a chaniatáu i’r plant ddatblygu sgiliau pwysig ar gyfer bywyd.


“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chlwb Pêl Droed Wrecsam a hoffwn ddiolch i’r Rhaglen ‘Pêl Droed yn y Gymuned’ yn Wrecsam, a Chronfa’r Loetri Fawr, am ei gwneud yn bosib i ysgolion fel ein hysgol ni fwynhau adnodd mor ardderchog.  
“Mae’r staff a ddaw i’n hysgol wedi eu hyfforddi’n dda, yn gwbl broffesiynol, wedi cael eu gwirio gan y Swyddfa Gofnodion Troseddau ac maent yn ffefrynnau mawr gyda’r staff a’r plant ac ni allwn ofyn am fwy na hynny.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0