Dysgodd disgyblion blwyddyn 12 ac 13 Ysgol Dinas Bran, Llangollen ynglŷn â gwir sefyllfa bod yn rhan o ddamwain ffordd yn ystod cyflwyniad hynod effeithiol yr wythnos hon gan ddiffoddwyr tân o orsaf dân Wrecsam.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cyfres o hysbysebion arbenigol yn cynnwys dioddefwyr go iawn a’u teuluoedd, gwneud defnydd o luniau o ddamweiniau ar y ffyrdd yr oedd diffoddwyr tân wedi ymwneud â hwy, a char maint llawn a theithwyr dymi oedd wedi bod yn rhan o wrthdrawiad penben.
Cafodd y disgyblion weld y ‘Beictân’ hefyd, a ddefnyddir er mwyn dysgu gyrwyr beiciau modur ynglŷn â phwysigrwydd beicio’n ddiogel.
Andy William, Rheolwr Criw, Gwylfa Wen, Wrecsam oedd yn arwain y cyflwyniad. Meddai:
“Mae’r grŵp rhwng 17-21 oed yn darged allweddol gennym – bu farw 55 o bobl mewn damweiniau ffyrdd yng Ngogledd Cymru y llynedd, roedd 36 ohonynt yn perthyn i’r grŵp oedran hwn.
“Rydym yn ceisio pwysleisio pwysigrwydd gyrru’n ddiogel – drwy berswadio’r bobl ifanc hyn i anwybyddu pwysau gan gyfoedion i yrru neu i yfed a gyrru, a sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch bob amser, gallem fod yn arbed nifer o fywydau.
“Yn y cyflwyniad hwn, rydym yn sôn am ein gwaith fel diffoddwyr tân yn mynychu damweiniau ffyrdd. Drwy ddefnyddio ein profiadau ni, a dangos hysbysebion sy’n creu argraff, credaf y bydd y delweddau hyn yn aros yng nghof y bobl ifanc ac yn cael cryn dipyn mwy o effaith na ffeithiau a ffigurau.”
Dywedodd Suzanne Nantcurvis, Pennaeth chweched dosbarth Ysgol Dinas Bran:
“Rydym wedi gweld nifer o ddamweiniau ffyrdd difrifol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf, gyda disgyblion yr ysgol yn cael eu lladd yn drasig neu eu hanafu.
“Roeddem ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i’r ysgol ymdrin â’r mater hwn – rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch ffyrdd yn ein gwersi addysg bersonol a chymdeithasol, ond mae’r ymweliad hwn wedi creu cyrn argraff ar ein disgyblion. Hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ddod i’n hysgol a dangos i’r disgyblion yn union pa mor ddifrifol yw’r canlyniadau pan fyddwch yn gyrru’n ddiofal.”
Ychwanegodd Tatem Jones, disgybl blwyddyn 12 yn yr ysgol:
“Roedd y cyflwyniad yn wirioneddol effeithiol ac yn creu darlun byw yn eich pen – rhywbeth na allwn gael gwared ohono y tro nesaf yn byddwn yn mynd yn y car. Roedd pawb yn ein grŵp ni wedi gwrando ar hyn ac wedi eu heffeithio ganddo – rydw i’n siŵr y bydd yn gwneud i ni i gyd wisgo gwregys a gyrru’n ddiogel pan fyddwn yn pasio ein prawf.”
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gydag amrywiol asiantaethau gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Diogelwch y Ffyrdd Cymru mewn ymgais i leihau damweiniau ar draws y 1400 cilometr o ffyrdd yn y sir.
Mae un fenter, Pass Plus Cymru, wedi ei hanelu at yrwyr ifanc rhwng 17 a 25, gan gynnwys gyrwyr sydd newydd gymhwyso. Am ddim ond £20, mae Pass Plus Cymru yn cynnig y cyfle i yrwyr ifanc ddarganfod mwy am dechnegau gyrru, awgrymiadau a chynghorion . . . a does dim prawf!
Mae’r hyfforddiant yn canolbwyntio ar:
• fynd ar y draffordd
• technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
• gyrru yn y nos ac ym mhob tywydd
• delio gyda threfi a dinasoedd prysur
• gyrru ar ffyrdd gwledig culion.
Pa fantais gewch chi o wneud Pass Plus Cymru?
• Gwell sgiliau gyrru
• Gwell siawns o gael yswiriant is*
• Llai o berygl o ddamwain neu niwed
*Drwy gynyddu sgiliau gyrru, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o beryglon, gall leihau’r perygl i chi fod mewn damwain a helpu pobl ifanc i gymhwyso am ostyngiad sylweddol gyda nifer o gwmnïau yswiriant.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â’r Cyngor ar 01824 706887 neu ewch i
www.dragondriver.com.

Rhoi adborth ar y tudalen hon