Creigiau ac ati ar ymyl y briffordd
Creigiau ac ati ar ymyl y briffordd
Mae gosod creigiau, boncyffion neu unrhyw beth arall ar ymyl y briffordd yn ffurfio rhwystr i’r briffordd. Lle bydd rhwystrau o’r fath yn cael eu dwyn i sylw’r Cyngor Sir byddwn yn gofyn iddynt gael eu symud. Os na chaiff hyn ei wneud, mae gennym y pŵer i symud y rhwystr a chodi am wneud hynny ar y rhai sy’n gyfrifol.
Fodd bynnag, os oes problem arbennig yn unrhyw fan penodol, yna cofiwch drafod hyn gyda staff Priffyrdd (trwy’r cyswllt e-bost ar y dudalen hon) i weld a oes modd defnyddio dulliau eraill (pyst nodi perygl er enghraifft). Os gallwn, byddwn yn falch o gydweithredu.

Rhoi adborth ar y tudalen hon