| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/28/2008 - Feteran Bosnia yn ŵr gwadd mewn achlysur busnes y sir


Bydd y Cyrnol Bob Stewart, Cadlywydd Prydeinig Cyntaf y Cenhedloedd Unedig ym Mosnia, yn rhannu ei brofiadau gyda chynrychiolwyr mewn cinio arbennig sydd i’w gynnal yn Sir Ddinbych y mis nesaf.

Mae digwyddiad Cinio Busnes Y Rhyl wedi ei drefnu gan Uned Buddsoddi ac Adfywio Ardal Sir Ddinbych ac fe’i cynhelir yn Neuadd Elwy, Rhyl dydd Mawrth, Mai 27 - i gyrraedd am 6.45pm. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl fusnes rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a rhannu enghreifftiau o ymarferion busnes da.

Gall cynrychiolwyr o unrhyw fusnes sydd wedi ei gofrestru yn Sir Ddinbych fynychu’r digwyddiad, ac mae’n rhad ac am ddim.  Arweinydd y noson fydd Arfon Haines Davies, un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd ITV Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn 1992-93 y daeth y Cyrnol Stewart yn Gadlywydd Prydeinig Cyntaf y Cenhedloedd Unedig ym Mosnia, a chafodd ei gyflwyno â’r DSO am hyn.  Daeth ei wasanaeth i ben yn 1995 fel Pennaeth Polisi ym Mhencadlys Goruchaf Pwerau Cynghrair Ewrop

Yna fe ymunodd ag Adran Materion Gwleidyddol Hill and Knowlton (UK) Ltd, cwmni cysylltiadau cyhoeddus hyd nes y daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr WorldSpace UK Ltd, cwmni darlledu lloeren digidol.  Yn awr mae ganddo fusnes ymgynghori sy’n arbenigo mewn arwain busnes, diogelwch, rheoli argyfwng, cymhelliad, a thrafodaeth.

Mae’n Gadeirydd Cymdeithas Annibynnol Cyfryngau Amddiffyn ar hyn o bryd ac mae ganddo radd dosbarth cyntaf mewn Strategaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Am wybodaeth bellach am y digwyddiad busnes neu i fwcio lle, cysylltwch â Vona Law ar 01824 708047 neu e-bost: vona.law@sirddinbych.gov.uk
Gellir cael gwybodaeth bellach am Uned Buddsoddi ac Adfywio Ardal Sir Ddinbych ar: www.sirddinbych.gov.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0