| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/28/2008 - Cyfleoedd i bawb yn ystod Wythnos Addysg Oedolion

Mae sefydliadau a grwpiau cymunedol o bob rhan o Sir Ddinbych yn manteisio ar yr Wythnos Addysg Oedolion (17-24 Mai) i ddangos yr amrediad amrywiol o gyfleoedd sy’n bodoli i bobl sydd eisiau mynd yn ôl i ddysgu.


Mae NIACE Dysgu Cymru, y sefydliad sy’n hyrwyddo addysg oedolion, wedi gweithio gyda channoedd o grwpiau ac unigolion ar draws y wlad i gydlynu wythnos o ddigwyddiadau hwyliog, llawn gwybodaeth a rhyngweithiol. Yn cwmpasu popeth o gelf a garddwriaeth i sgiliau cyfrifiadurol a ffotograffiaeth ddigidol, cynlluniwyd y digwyddiadau i roi blas o’r gweithgareddau dysgu sydd ar gael i bobl yn eu hardaloedd eu hunain.


Cydnabyddir yr Wythnos Addysg Oedolion fel gŵyl ddysgu fwyaf y Deyrnas Unedig ac, yng Nghymru, daeth yn sbardun i bobl ddod at ei gilydd a rhoi cynnig ar sgil newydd neu gyfle dysgu. Mae manteision dysgu gydol oes yn hysbys iawn; mae unigolion sy’n ymestyn eu teithiau dysgu tu hwnt i’w haddysg ffurfiol yn profi cynnydd mewn hunanhyder, cyfleoedd i wneud ffrindiau newydd a gwella iechyd tymor hir.


O fewn yr amgylchedd dysgu, bydd dysgu parhaus yn helpu unigolion i wella eu rhagolygon gyrfa a’u sefyllfa ariannol ac mae hefyd yn hanfodol ar lefel genedlaethol os yw busnesau Cymru i oroesi a ffynnu yn amgylchedd cystadleuol heddiw.


Cafodd Richard Spear, cyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru ei galonogi gan y nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill ym mhob rhan o’r wlad.


“Mae cyfleoedd dysgu ardderchog ar gael i fyny ac i lawr y wlad a phrif nod yr Wythnos Addysg Oedolion yw rhoi sylw iddynt a’u hyrwyddo. Unwaith y mae pobl yn cael blas o’r hyn sydd ar gynnig, maent yn teimlo wedi’u grymuso i ganfod mwy ac aiff llawer ymlaen i ddysgu sgiliau newydd y medrant wneud defnydd da ohonynt.”

Dywedodd Sandra Carroll, sy’n cydlynu digwyddiadau yn Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth â NIACE Cymru i godi proffil yr wythnos o weithgareddau a’r cyfleon di-ri sydd ar gael i drigolion ddysgu sgiliau newydd neu gweithio tuag at gymhwyster.  Gall dysgu sgiliau newydd agor drysau a chynnig cyfle i bobl gymdeithasu. Does dim amser gwell na hyn i gymryd y cyfle a gweld beth sydd ar gael.”


Dangosodd ymchwil yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion y llynedd fod mwy na 17,500 o bobl wedi mynychu dros 1,000 o ‘ddigwyddiadau blasu’ yng Nghymru. Dangosodd arolwg dilynol hefyd i’r mwyafrif ohonynt – 60% o bawb a arolygwyd – fynd ymlaen i weithredu’n gadarnhaol, gyda dau mewn pump yn dewis cwrs gyda darparydd dysgu.


Ychwanegodd Mr Spear; “Mae gan bawb eu rhesymau eu hunain dros fynd yn ôl i ddysgu ond y brif neges yw p’un ai ydych yn ifanc neu’n hen, yn ddysgwr profiadol neu rywun sy’n dychwelyd i ddysgu ar ôl nifer o flynyddoedd, mae rhywbeth i weddu i bob blas yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion.”


Mae rhestr gyflawn o weithgareddau yn Sir Ddinbych ar gael ar: www.sirddinbych.gov.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0