| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
04/30/2008 - Y Cyngor yn talu teyrnged i gyn gadeirydd


Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi talu teyrnged i Mr Tom Parry o Brestatyn a fu farw yn Hosbis Sant Cyndeyrn ddoe (Ebrill 29).

Roedd Mr Parry wedi cynrychioli Prestatyn Canolog o 1995 hyd nes iddo ymddeol fel cynghorydd yn yr etholiadau diwethaf yn 2004.  Fe gadeiriodd Bwyllgor Addysg y cyngor cyn cyflwyniad y system Gabinet a phwyllgorau craffu a bu’n gweithredu fel cadeirydd y cyngor yn 2003/04.

Wedi ei eni ym Mostyn ac yn siaradwr Cymraeg, dysgu fu gyrfa Tom ac yr oedd yn brifathro Ysgol Blant Bach Bodnant ym Mhrestatyn cyn iddo ymddeol.  Yn ei amser hamdden bu Tom yn ddyfarnwr pêl droed ac yn llinellwr.  Roedd yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl Droed Lerpwl a bu’n gweithredu fel sgowt i’r clwb am flynyddoedd lawer.

Meddai cadeirydd presennol y cyngor, Y Cynghorydd Councillor Ken Hawkins,  "Ar ran y cyngor a’i staff, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dyfnaf i deulu Tom yn eu colled.  Roedd Tom yn ŵr bonheddig a rhoddodd wasanaeth arbennig i’r sir, fel cynghorydd ac fel cadeirydd y cyngor sir.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0