Bydd unrhyw hawliadau amheus yn erbyn Cyngor Sir Ddinbych yn cael eu hamddiffyn yn gryf, rhybuddiodd yr awdurdod.
Mae’r rhybudd hwn yn dilyn achos yn Llys Sirol Y Rhyl yr wythnos diwethaf lle bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn amddiffyn achos o esgeulustod wedi i golofn lamp ddisgyn ar fan hawliwr gan achosi difrod. Weightmans LLP o Lerpwl oedd y twrneiod oedd yn gweithredu ar ran y Cyngor.
Honnai’r hawliwr fod y Cyngor wedi methu â symud y postyn lamp y credai ef oedd yn beryglus. Fe amddiffynnodd y Cyngor yr hawliad ar y sail ei fod wedi gwneud popeth oedd yn bosib i sicrhau diogelwch trigolion lleol ac mae’n rhaid bod y golofn wedi disgyn oherwydd bod rhywun anhysbys wedi bod yn ymyrryd â’r postyn lamp.
Gwrthododd y barnwr yr hawliad gan ddatgan: "Mae’r llys yn gweld yn glir yn yr achos hwn bod yr Hawliwr wedi dweud anwiredd ar dri achlysur ac mae hyn yn peri pryder i’r llys ac roedd yna bryderon mawr ynglŷn â hygrededd yr Hawliwr ynglŷn â rhai agweddau o’r dystiolaeth hon.”
Dyfarnwyd costau o £6,121 yn erbyn yr hawliwr.
Yn awr mae Sir Ddinbych yn ceisio cyngor cyfreithiol pellach ynglŷn â’r sgôp ar gyfer erlyniad yn erbyn yr hawliwr.
Meddai Alan Evans, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Corfforaethol - Adnoddau: “Mae’r achos hwn yn amlygu’r ffaith na fydd y Cyngor yn petruso i amddiffyn unrhyw hawliad y credir ei fod yn ffug ac rydym yn croesawu’r dyfarniad yn yr achos hwn. Mae’r canlyniad llwyddiannus wedi arbed £10,000 i’r awdurdod a byddai cyfanswm yr hawliad wedi costio hyd at £20,000 pe byddai’r dyfarniad wedi mynd yn erbyn y Cyngor.
"Hoffwn ddiolch i aelodau staff uned Golau Stryd Sir Ddinbych a oedd yn barod ac yn fodlon i roi tystiolaeth ac a helpodd i wrthod yr achos hwn yn erbyn yr awdurdod.
“Mae unrhyw achosion yn erbyn yr awdurdod yn rhoi straen ar adnoddau ac fe fyddwn yn gweithredu’n gadarn i amddiffyn y Cyngor a lles trethdalwyr y cyngor."

Rhoi adborth ar y tudalen hon