Bydd pobl ifanc o Sir Ddinbych yn wynebu pobl ifanc o ysgolion eraill ledled Cymru mewn cystadlaethau chwaraeon cenedlaethol a drefnir gan Urdd Gobaith Cymru yn Aberystwyth ar Fai 10fed.
Bydd yr ysgolion canlynol yn cynrychioli Sir Ddinbych ar ôl llwyddiant yn y rowndiau lleol:
Pêl Droed 7 bob ochr: Ysgol Llywelyn, Y Rhyl
Pêl Droed 5 bob ochr (ysgolion bychan): Ysgol Pant Pastynog, Prion
Pêl Rwyd Ysgol Pen Barras, Rhuthun
Pêl Droed 7 bob ochr (merched) Ysgol Bro Elwern, Gwyddelwern
Rygbi (cynradd) Ysgol Pen Barras, Rhuthun
Rygbi (cynradd) Ysgol Borthyn, Rhuthun
Hoffai Cyngor Sir Ddinbych ddymuno pob lwc i’r ysgolion i gyd yn eu gwahanol gystadlaethau.

Rhoi adborth ar y tudalen hon