Mae Sir Ddinbych wedi gweld y nifer o bobl ifanc digartref yn codi felly dechreuodd y prosiect llety hefo cefnogaeth ym mis Chwefror 2008 fel ymateb i'r galw cynyddol. Cynhelir lansiad ddydd Mawrth 13 Mai yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa (Factory Place, Dinbych, LL16 3TS). Agorir y drysau am 12.30pm i gofrestru gan gynnwys cinio a phara hyd at tua 2.00pm.
Rhaid trefnu lle ymlaen llaw ffoniwch:
Enw: Steve Taylor-Smith
E-bostiwch: staylor@localsolutions.org.uk
Rhif ffôn: 0151-286 6959
Ffôn boced 232934
Mae Local Solutions wedi dod a'r cynllun llety hefo cefnogaeth i Sir Ddinbych i helpu pobl ifanc digartref rhwng 16 - 18.
Rydym yn chwilio am bobl yn Sir Ddinbych sy'n rhentu ystafell o fewn eu cartref i bobl ifanc digartref rhwng 16 ac 18 oed. Bydd y preswylydd yn rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol fel rhan o'r teulu i helpu pobl ifanc ddatblygu sgiliau i fyw yn annibynnol.
Bydd preswylwyr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth hefo tâl hael.
Os oes gennych ddiddordeb helpu pobl ifanc digartref ac os oes ystafell sbâr ffoniwch un o'n timau os gwelwch yn dda neu os ydych yn nabod pobl ifanc sydd angen llety cyfeiriwch o / hi at y timau .
Tîm Sir Ddinbych: 01745 812 471
Wirral Team (MAP): 0845 051 8282 (pris lleol)

Rhoi adborth ar y tudalen hon