CROESFANNAU CERBYDAU DROS BALMENTYDD A LLEINIAU YMYL FFORDD
Os ydych yn ystyried adeiladu croesfan gerbydau newydd dros balmant neu ymyl priffordd, neu newid un bresennol, dylech gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych yn gynnar i drafod eich gofynion a chael cyngor.
Gallwch naill ai anfon e-bost trwy glicio ar y cyswllt, neu gallwch ffonio ein Tîm Rheoli Datblygiad ar y Briffordd ar 01824 706889.
Tra nad oes unrhyw broblem gyda mwyafrif y ceisiadau, gall fod problemau gydag ychydig ohonynt, fel agosrwydd at gyffordd, gwelededd gwael neu os bydd angen symud goleuadau stryd neu arwyddion ffordd (gan gynnwys marcwyr hydrant). Er bod modd eu symud, gall olygu cost ychwanegol sylweddol.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn codi ffi weinyddol i dalu am brosesu’r cais ac ymweliadau safle. Cyfeiriwch at y dudalen ‘rhestr daliadau’.
Rhaid gwneud holl waith yn y briffordd gyhoeddus gan gontractwyr sy’n dal yr achrediad perthnasol i wneud gwaith yn y briffordd, ynghyd ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o £5 miliwn. Mae holl ymgeiswyr neu eu contractwyr yn gyfrifol am gael gwybod pa wasanaethau neu geblau neu bibelli ymgymerwyr statudol sydd yn y palmant neu lain ymyl ffordd cyn unrhyw gloddio.

Rhoi adborth ar y tudalen hon