05/06/2008 - Cynghorwyr Sir Ddinbych yn awr yn ddarlun gwahanol
Yn dilyn yr etholiadau dydd Iau diwethaf gwelwyd cynnydd o 50% yn nifer y merched sy’n Gynghorwyr sir yn Sir Ddinbych.
Etholwyd deg o ferched ar y Cyngor Sir yn 1999 a 2004. Fe etholwyd pymtheg yr wythnos diwethaf, a hynny’n cynrychioli 32% o’r 47 o Gynghorwyr.
Fe gyhoeddir dadansoddiad manwl pan fydd y data cyflawn ar gael ond credir fod cyfartaledd oedran y Cynghorwyr wedi disgyn o’i gymharu â’r Cyngor a etholwyd yn 2004.
Daeth 42 o bobl i’r sioeau teithiol a drefnwyd gan y Cyngor sir ym mis Chwefror a mis Mawrth ar gyfer pobl oedd â diddordeb mewn bod yn Gynghorwyr. Roedd eu hanner yn sefyll i’w hethol ar y cyngor sir ac fe etholwyd 5.

Rhoi adborth ar y tudalen hon