| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/06/2008 - Hyrwyddo iechyd a diogelwch bwyd yn Sir Ddinbych

Mae Swyddogion Iechyd Amgylcheddol Sir Ddinbych sy’n gweithio o fewn y Tîm Bwyd ac Iechyd a Diogelwch, yn parhau i sicrhau fod yr holl fwyd sy’n cael ei gynhyrchu, ei fewnforio a’i ddosbarthu yn Sir Ddinbych yn ddiogel i’w fwyta ac yn cydymffurfio â rheoliadau hylendid.
Yn ystod 2007/08 mae’r tîm o swyddogion wedi cyflawni hyn drwy gyfuniad o archwiliadau, addysg, cyngor a gweithrediadau gorfodi sydyn yn erbyn busnesau bwyd sy’n perfformio’n wael.
Yn ystod y flwyddyn bu’r tîm yn archwilio 92% o’r holl adeiladau bwyd sy’n risg uchel.  Llwyddodd dros chwarter o’r rhain i ennill Gwobr Hylendid Bwyd Cymru, gan ddangos y safon uchel a gyflawnwyd gan gyfran sylweddol o holl fusnesau bwyd y sir.
Bu’r tîm hefyd yn ymgymryd â gweithrediadau gorfodi yn erbyn gweithredwyr busnes bwyd oedd ag adeiladau bwyd anlanwaith.  Caewyd 6 o adeiladau bwyd oherwydd amgylchiadau anlanwaith.  Rhoddwyd cyfanswm o 10 o Hysbysiadau Gwell Hylendid Bwyd ac fe anfonwyd 286 o lythyrau rhybudd yn dilyn archwiliadau.  Bydd y tîm yn parhau i weithredu gorfodaeth yn erbyn busnesau bwyd sy’n cael eu rhedeg yn wael yn barhaus ac nad ydynt yn cydymffurfio â safonau cyfreithiol safonol.
Hefyd fe drefnwyd seminarau am ddim ar hylendid bwyd yn ystod y flwyddyn ac mae mwy wedi eu cynllunio yn ystod y flwyddyn eleni i helpu perchnogion busnesau bwyd gydymffurfio â gofynion cyfreithiol.
Meddai Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Gwnaethpwyd cynnydd da iawn o fewn y gwasanaeth diogelwch bwyd a byddwn yn parhau i sicrhau fod yr adeiladau bwyd o fewn Sir Ddinbych yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad ar faterion diogelwch bwyd, ond hefyd y gweithredir gorfodaeth yn erbyn y bobl nad ydynt yn credu ei bod yn bwysig cadw busnes bwyd yn lân ac yn lanwaith”.
Mae’r Tîm Bwyd ac Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor ac arweiniad am ddim i weithredwyr busnesau bwyd o fewn Sir Ddinbych a gellir cysylltu â nhw ar 01824 708155.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0