| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/06/2008 - Diogelwch yn flaenoriaeth yn y gweithle

 
Mae Swyddogion Iechyd Amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch Sir Ddinbych wedi bod yn gweithredu gorfodaeth yn sydyn i sicrhau fod cyflogwyr yn darparu gweithle diogel i atal damweiniau a thrychinebau.
Yn 2006/07 fe laddwyd 241 o weithwyr yn y gwaith yn y DU ac fe adroddwyd cyfanswm o 141,350 o anafiadau eraill yn y gweithle i Awdurdodau Lleol ac i’r Awdurdod Gweithredu Iechyd a Diogelwch.  
Yn 2006/07, bu Tîm Bwyd ac Iechyd a Diogelwch Sir Ddinbych yn archwilio sawl busnes ac maent wedi rhoddi 3 o Hysbysiadau Gwaharddiad, 10 o Hysbysiadau Gwella ac wedi rhoi nifer o lythyrau rhybudd.
Rhoddwyd Hysbysiadau Gwahardd i atal gweithgareddau peryglus yn cynnwys defnyddio peiriannau heb warchodwyr, caniatáu cyrchiad i rannau peryglus o beiriannau ac arferion gwaith anniogel ar uchder lle'r oedd yna beryg o syrthio.
Mae yna dros 1,000 o weithwyr y mis yn genedlaethol sy’n dioddef anaf difrifol oherwydd slip, bagliad neu godwm, felly mae swyddogion ar hyn o bryd yn ymgymryd â gwaith yn cynnwys archwiliadau, ymweliadau cynghori, ymgyrchoedd a seminarau i godi ymwybyddiaeth o arferion da mewn iechyd a diogelwch ac i weithredu’n orfodol yn erbyn busnesau sy’n perfformio’n wael fel y bo’r angen.
Meddai Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ‘Fe barhawn i gynorthwyo busnesau i gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch.  Ond, os bydd busnesau’n methu â dilyn ein cyngor ac yn parhau i roi gweithwyr a phobl eraill mewn perygl o niwed neu waeledd yn eu gweithle, yna mae gweithrediadau gorfodi sydyn yn debygol iawn”.
Cysylltwch â’r tîm ar 01824 708155 os oes arnoch angen cyngor ar unrhyw fater sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.  Neu fe allwch hefyd gysylltu â  ‘Workboost Wales’ ar 0845 609 6006 neu www.workboostwales.org.uk am gyngor diduedd am ddim.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0