Estynnir gwahoddiad i grwpiau gwirfoddol, statudol a chymunedol ledled Sir Ddinbych i ymgeisio am gyfran o £25,000 o arian sydd ar gael i hyrwyddo gweithgareddau lles yn y sir.
Mae Sir Ddinbych Iach yn bwriadu cefnogi hyd at saith o fidiau o rhwng £2,000 a £5,000. Fe gaiff bidiau partneriaeth ffafriaeth, yn ogystal â gweithgareddau mewn ardaloedd gwledig.
Yn ogystal â chefnogi strategaeth Sir Ddinbych Iach, bydd gofyn i unrhyw fidiau adlewyrchu themâu Sialens Iechyd Sir Ddinbych, bwyd a ffitrwydd, ysmygu, damweiniau a niweidiau, alcohol a chamddefnyddio sylweddau eraill, heintiau ac iechyd meddwl a lles.
Mae ffurflenni ar gael gan Sian Bennett, Swyddog Gwella Iechyd, Cyngor Sir Ddinbych, 64 Ffordd Brighton, Y Rhyl. LL18 3HP, e-bost: sian.bennett@denbighshire.co.uk neu ffonio 01824 708370 . Neu gellir cael ffurflenni ar: www.healthchallengedenbighshire.gov.uk yn yr adran newyddion.
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi eu llenwi erbyn Mai 30. Fe hysbysir pob ymgeisydd o ganlyniad y cais o fewn tair wythnos i’r dyddiad hwnnw.

Rhoi adborth ar y tudalen hon