| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/07/2008 - Teyrnged i Steve Brake - Swyddog celfyddydau cymunedol y Cyngor

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi teyrnged i’w swyddog celfyddydau cymunedol a fu farw heddiw (dydd Mawrth, Mai 6).

Cafodd Steve Brake ei addysg yn Wimbledon ac Ysgol Arlunio St. Martin (Cerflunwaith) ac fe ymgymerodd ag astudiaethau ol-raddedig  mewn Gweinyddiaeth Celfyddydau ym Mhrifysgol y Ddinas, Llundain.  

Fe’i penodwyd gan Gyngor Sir Clwyd yn 1980 i sefydlu Gwasanaeth Celfyddydau ac Arddangosfeydd Clwyd ac fe ymunodd â Sir Ddinbych fel Swyddog Celfyddydau’r Sir pan gafwyd ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996.

Roedd yn weithredol yn sefydlu ymarfer Celfyddydau mewn Gofal Iechyd ar draws Gogledd Cymru gyfan, gan ddarparu gwasanaeth comisiynu celfyddyd gyhoeddus ar gyfer ysbytai newydd, rhaglen o arddangosfeydd dros dro a rhaglen o artistiaid preswyl ar gyfer ysbytai.  

Roedd yn weithredol  yn agor galeri newydd yn Llangollen ac fe sefydlodd Wobrau Portreadau Cymru.

Meddai’r Cadeirydd ymadawol, y Cynghorydd Ken Hawkins: "Ar ran y cyngor a’i staff, hoffwn ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Steve yn eu colled.

“Roedd Steve yn aelod talentog ac ymroddgar o’r tîm Celfyddydau Cymunedol ac roedd ei nwyd a chyfoeth ei arbenigedd wedi helpu i ddatblygu celfyddyd gymunedol yn Sir Ddinbych ac yn rhanbarthol.

"Bydd ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn Sir Ddinbych yn teimlo’i golli.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0