Yn awr gall plant ysgol yn Sir Ddinbych edrych ymlaen at ddiwrnod chwaraeon go iawn am y tro cyntaf mewn tair blynedd diolch i’w Bwrdd Llywodraethwyr.
Mae’r cae chwaraeon yn Ysgol Y Castell yn Rhuddlan wedi bod yn segur am y tair blynedd ddiwethaf wedi i foch daear a chwningod ei feddiannu gan wneud tyllau fel bod y lle’n beryglus i’r plant chwarae yno.
Bu’r llywodraethwyr yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych ac fe roliwyd y lle a’i wneud yn ddiogel i blant chwarae yno eto.
Meddai’r brifathrawes weithredol, Joanne Evans, “Lle cyfyngedig sydd yna i’r plant chwarae yn yr amser chwarae gan fod y cae wedi bod yn waharddedig, ond yn awr maent wrth eu boddau. Rydym wedi gallu marcio trac iawn ar y cae yn barod ar gyfer ein diwrnod chwaraeon, y diwrnod chwaraeon swyddogol cyntaf mewn tair blynedd.
Gyda’r lle ychwanegol rydym wedi gallu ymestyn ein Carnifal Cymdeithas Rhieni Athrawon rheolaidd - teitl y digwyddiad eleni yw “All at Sea” ac fe’i cynhelir ar ddydd Sadwrn, Mehefin 7”.
Mae cae’r ysgol ar safle hanesyddol ac felly gwaith cyfyngedig yn unig a ganiateir i atal dychweliad y moch daear a’r cwningod. Fe suddwyd y ffens o dan lefel y ddaear ar ddwy ochr i’r cae.

Rhoi adborth ar y tudalen hon